Wednesday 17 September 2014

Mae'r Aflonyddwch Mawr yn galw am Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Gymreig ar gyfer Adnewyddu ac ailfywiogi’r Mudiad am Annibyniaeth yma yng Nghymru.




Mae'r Aflonyddwch Mawr yn galw am Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Gymreig ar gyfer Adnewyddu ac ailfywiogi’r Mudiad am Annibyniaeth yma yng Nghymru. 

Mae'r Aflonyddwch Mawr yn cael ei ysbrydoli gan y symudiad mas yn yr Alban ar gyfer annibyniaeth ac yn benodol â'r Mudiad Annibyniaeth Radical yno ac rydym yn edmygu'r Gydweithfa Cenedlaethol o artistiaid a phobl greadigol sydd wedi uno yn y frwydr i adennill Annibyniaeth Cenedlaethol yr Alban.

Mae angen i ni yma yng Nghymru geisio ag efelychu’r sbectrwm llawn o farn genedlaetholgar a sosialaidd a gynrychiolir yn y mudiad cenedlaethol torfol a drefnwyd yno.

Ar hyn o bryd, mae’r sefyllfa yn wahanol iawn yng Nghymru lle mae'r mudiad am annibyniaeth yn rhwygedig ac yn wan ac, o ganlyniad, yn dioddef o sectyddiaeth.

Mae’r sectyddiaeth yn glefyd marwol y gellir ei oresgyn ar yr adeg allweddol yma yn hanes ein cenedl, drwy roi buddiannau'r genedl uwchlaw gwahaniaethau gwleidyddol sectyddol sydd wedi atal ein twf. 

Mae gan Plaid Cymru berthynas anesmwyth gyda'r syniad o Annibyniaeth Cymru ac mae yna ‘Brydeinwyr’  ymysg arweinyddiaeth y Blaid a fyddai'n fascwlareiddio ac yn gwrthwynebu / bradychu unrhyw ymgyrch o ddifrif dros ennill Annibyniaeth i Gymru o'r Wladwriaeth Brydeinig.

Mae'r frwydr yn erbyn Eidioleg Prydeinig ei naws yn hanfodol os yw’r ymgyrch dros Gymru Annibynnol i ennill tyfiant poblogaidd, dyna pam, yn 2015, byddwn yn cyhoeddi ‘Hanes brwydro'r Pobl yng Nghymru’.

Mae'r grŵp o Brydeinwyr ym Mhlaid Cymru yn berchen â grymoedd allweddol sy'n gefnogol i’r melinwyntio diwydiannol a gwladychiaeth ‘eco’ sy’n cymryd lle yng Nghymru heddiw ac mae hyn, yn ddi-os, yn rhannol gyfrifol dros y gostyngiad yn nifer  aelodaeth y Blaid.

Mae’r un grym o fewn i Blaid Cymru yn gefnogol i’r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag maent yn awyddus i gyfnewid y bunt ar gyfer yr Ewro a’n gosod o dan dasgfeistr Ewropeaidd yn gyfnewid i’r un Brydeinig! Nid dyna yw ein nod ni neu unrhyw berson rhesymol arall ar gyfer Cymru Annibynnol.

Mae'r gefnogaeth yma i ‘Eco Wladychiaeth’ a’r ‘Cyfalafiaeth Gwyrdd’ Fyd-eang yn ogystal â'r gefnogaeth ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd a'r rheol fiwrocrataidd o Frwsel yn tanseilio'r frwydr ddemocrataidd a dyheadau pobl Cymru yn yr 21ain ganrif.

Yn drychinebus, mae polisi Plaid Cymru parthed aros yn yr Undeb Ewropeaidd wedi sbarduno 200,000 o bleidleiswyr yn Marcha Wallia i bleidleisio UKIP yn yr Etholiadau Ewropeaidd diwethaf! Rhaid ennill y pleidwyr yma yn ôl i gefnogi’r frwydr am Annibyniaeth i Gymru.

Mae'n rhaid i’r Mudiad Cenedlaethol yng Nghymru fabwysiadu polisïau sy’n ehangu ei apêl ac, yn sicr, tydi Plaid Cymru ddim yn cynnig unrhyw arweiniad i’r cyfeiriad hynny ar hyn o bryd felly, mae’n hanfodol bod Gweriniaethwyr Sosialaidd Cymru yn tyfu’n  rymus i gywiro gwallau strategol Plaid Cymru i ehangu apêl y Mudiad Cenedlaethol Cymreig.

Felly, fel y mae Plaid Cymru yn sefyll yn ei ymgnawdoliad presennol, gellir ddim gweld sut yr ellir ymddiried yn y blaid yma fel cerbyd sy'n addas i arwain y rhyfel gwleidyddol difrifol fydd angen ei brwydro i ennill Annibyniaeth i Gymru ac oherwydd, mae gwir angen i ni greu grym newydd yng Ngwleidyddiaeth Cymru a fydd yn cenhadu’n ddiflino am yr angen am Gymru Annibynnol a chredwn y dylai’r sefydliad hynny fod yn Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Cymreig.

Gall aelodau unigol o Blaid Cymru a mudiadau cenedlaetholgar a sosialaidd eraill ymaelodi â’r Gyngres Weriniaethol Sosialaidd arfaethedig yma a chychwyn yn ddi-oed ar y gwaith caled ond angenrheidiol o dargedu i ennill miliwn o Gymry i gefnogi’r frwydr Am annibyniaeth i Gymru erbyn 2017.

I'r perwyl hwnnw, rydym yn galw ar gyfer sefydliad paratoadol WSRC i ddod i fodolaeth yn 2014 i baratoi ar gyfer Gyngres Weriniaethol Sosialaidd Cymru ym Mehefin 2015.

Bydd y Gyngres yn gosod y strategaeth a thactegaeth ar gyfer Mudiad Annibyniaeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd o ymgyrchu hyd at 2017.

Bydd y Gyngres yn cael ei gynnull ddwywaith y flwyddyn i adolygu llwyddiannau a methiannau.

Mae gennym ein cenedl -  Gymru i ennill ar gyfer Rhyddid Cenedlaethol a Chymdeithasol ein pobl… Cipiwch y cyfle!

No comments:

Post a Comment